chwiliwch yr wefan hon

 
 
photo of pcsos

Plismona Cymunedol yw ein dull ni o ymladd trosedd, ymdrin â materion diogelwch cymunedol a thawelu meddwl ein cymunedau. Rydym wedi ymrwymo i wrando ar anghenion ein cymunedau ac ymateb mewn modd positif, gan feithrin hyder yn y ffordd rydym yn rheoli eich cymdogaeth chi.

Ystyr cymdogaeth yw “ardal ddaearyddol sydd wedi'i diffinio trwy gytundeb ardal lleol". Mae plismona cymdogaeth yn seiliedig ar ffiniau wardiau llywodraeth leol. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth o wasanaeth plismona a gwasanaeth cyhoeddus yn cydredeg, gan sicrhau darpariaeth ganolbwyntiedig.

Mae gan bob cymdogaeth yng Ngogledd Cymru dîm o swyddogion Plismona Cymdogaeth penodedig sy'n cael eu rheoli gan ringyll Plismona Cymdogaeth.
Eu nod yw sicrhau cymdogaethau diogel a darparu gwasanaeth sydd wedi ei deilwra i anghenion lleol.

Mae Timoedd Plismona Cymdogaeth yn cynnwys:
Rheolwyr Rhawd Gymunedol (Rh.Rh.G)- swyddogion heddlu sy’n arbenigwyr yn yr hyn maent yn ei wneud, gyda chyfrifoldeb penodol dros reoli'r cymdogaethau maent yn atebol iddynt.
Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (S.C.C.H) – staff heddlu mewn lifrai sy’n gyfrifol am daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhoi tawelwch meddwl i'w cymuned. Mae S.C.C.H hefyd yn benodol gyfrifol am gymdogaethau penodol.
I gael gwybod mwy am bwerau S.C.C.H.
I gael gwybod sut i ariannu S.C.C.H. ychwanegol ar gyfer eich cymdogaeth chi (gwybodaeth yn cael ei chadarnhau ar hyn o bryd)
Swyddogion Ymateb - swyddogion sy’n ymateb i alwadau brys yn eich ardal chi. Dyma'r swyddogion sy'n gyfrifol am ymchwilio i drosedd, arestio troseddwyr a chynnal a chadw trefn.
Heddlu Gwirfoddol - swyddogion gwirfoddol mewn lifrai gyda’r un pwerau â swyddogion heddlu arferol.
I gael gwybod sut i ddod yn aelod o'r heddlu gwirfoddol
Gwirfoddolwyr Cymunedol – – aelodau dinasgar o’n cymunedau sy’n cyflawni rhai tasgau i helpu swyddogion dreulio mwy o amser ar eu rhawd.
I gael gwybod sut i ddod yn wirfoddolwr cymunedol (gwybodaeth yn cael ei chadarnhau ar hyn o bryd)
Sefydliadau Partner – cynrychiolwyr o'n cymunedau, cynghorau plwyf, awdurdodau lleol, awdurdodau tai, gwarchod y gymdogaeth, asiantaethau camddefnyddio sylweddau, cymunedau busnes, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth iechyd.
Cysylltau i sefydliadau partner


Dewiswch eich ardal leol ar y map neu'r rhestr isod i weld manylion eich Tm Plismona Cymdogaeth, newyddion lleol, y blaenoriaethau plismona, ffyrdd o ryngweithio gydag a dylanwadu ar blismona yn eich ardal.

go to North Denbighshire district
go to Anglesey districtgo to South Denbighshire district
go to Bangor districtgo to North Flintshire district
go to Caernarfon districtgo to Deeside district
go to Pwllheli districtgo to South Flintshire district
go to Meirionnydd districtgo to North Wrexham district
go to West Conwy districtgo to Wrexham Town district
go to East Conwy districtgo to South Wrexham district
map of districts go to Bangor district go to Caernarfon district go to Pwllheli district go to Meirionnydd district go to West Conwy district go to East Conwy district go to North Denbighshire district go to South Denbighshire district go to North Flintshire district go to Deeside district go to South Flintshire district go to North Wrexham district go to Wrexham Town district go to South Wrexham district go to Anglesey district

Sut mae Plismona Cymdogaeth yn cael ei ddarparu?

Mynediad at wasanaethau plismona a diogelwch cymunedol trwy gyfrwng pwynt cyswllt enwebedig ar gyfer eich cymdogaeth. I gael gwybod pwy sy'n gyfrifol am blismona cymdogaethau yn eich ardal chi, dewiswch eich ardal neu eich bro o'r map uchod.

Dylanwadu ar flaenoriaethau cymdogaethau yn eich ardal chi. Nid ydym yn gwybod beth yw’r holl broblemau ac rydym angen eich cymorth chi i ganfod beth sy'n bwysig i chi. Bydd eich sylwadau o gymorth i flaenoriaethu'r gwaith sydd angen ei wneud yn eich cymdogaeth chi. Mae eich tîm plismona cymdogaeth eisiau eich barn chi. Gallwch ddweud eich dweud trwy fynychu cyfarfodydd ymgynghori sy’n cael eu cynnal yn eich cymdogaeth chi, cyfarfodydd stryd, cymryd rhan mewn arolygon drwy'r post, trwy gyfrwng e-bost, llythyr neu ffôn.
I gael gwybod pryd mae eich cyfarfod cymdogaeth nesaf chi, dewiswch eich ardal neu eich bro o'r map uchod.

Ymyriadau gyda chymunedau a phartneriaid er mwyn datrys y problemau sy'n bwysig i chi. Unwaith ein bod yn gwybod pa flaenoriaethau cymdogaeth sydd angen sylw, byddwn yn ceisio eu datrys trwy bennu amcanion realistig, penodi pwy i wneud beth, amlygu pa faterion sydd angen mwy o gefnogaeth neu gefnogaeth fwy arbenigol a thrwy ganfod sut gallwn weithio gyda'r cyhoedd a phartneriaid yn y tymor hir.

Atebion i’r blaenoriaethau a bennwyd gennych chi. Byddwn yn rhoi adborth ar yr hyn a wnaed mewn ymateb i'ch pryderon. Weithiau, efallai na fydd ateb cynaliadwy. Mewn achos o'r fath, byddwn yn egluro'n glir pam.