What do you think of our website?  Link to online survey
Di-Argyfwng
0845 6071001
TypeTalk: 01978 294738
Minicom: 01978 294680
go to Community Forums

PC’s raise money for charity
08/09/2010 09:37:00

Police campaigns in Colwyn Bay
08/09/2010 09:31:00

Staff tackle Tour de France climbs for Ty Gobaith
07/09/2010 16:04:00

Tynnu sylw at ddiogelwch plant mewn ceir
07/09/2010 11:50:00

Diwrnod Diogelwch i Deuluoedd
07/09/2010 11:06:00


Mae busnesau lleol a thrigolion pentref yn sir Conwy wedi ymuno â Heddlu Gogledd Cymru i helpu rhwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae unigolion ym Mhensarn ger Abergele yn defnyddio'u gwybodaeth leol ac maent yn gweithio'n agos gydag aelodau o'r Tîm Plismona'r Gymdogaeth lleol i helpu daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy adnabod ardaloedd ‘problemus'.

Meddai SCCH Sally Mulvaney o'r Tîm Plismona'r Gymdogaeth: "Da ni'n gwneud defnydd o amrywiaeth y ffyrdd i drio rhwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae cynlluniau gweithredu mewn lle i dargedu ardaloedd penodol a thaclo unrhyw broblemau a allai godi.

"Yn ddiweddar ‘da ni hefyd wedi sefydlu rhwydwaith rhybudd cynnar drwy'r gymuned, sy'n golygu bod cyfranogwyr allweddol megis trigolion, dalwyr trwyddedau a chynghorwyr yn gweithredu fel ein llygaid a'r clustiau ac yn tynnu ein sylw at unrhyw faterion ymddygiad gwrthgymdeithasol posibl fel y gallwn ni weithredu'n sydyn".

Un busnes neilltuol sydd wedi bod yn arwain y ffordd i geisio rhoi stop ar yr ymddygiad hwn yn y gymuned yw ‘Parc Carafannau Harts'.

Roedd y busnes yn bryderus ynghylch darn o dir sy'n agos i'w Parc sydd wedi cael ei ddatblygu'n ardd bywyd gwyllt gymunedol gan PeBel (Cymdeithas Trigolion Pensarn a Belgrano).

Ychwanegodd SCCH Mulvaney: "Roedd yna ychydig o dystiolaeth bod pobl ifanc yn ymgynnull ac yn yfed alcohol o gwmpas Tennis Court Road ac o ganlyniad mi wnaeth y parc carafannau osod TCC - nid yn unig i amddiffyn eu heiddo eu nhw hunain ond hefyd i helpu'r heddlu adnabod a dal troseddwyr.

"Nid oedd y problemau oedda ni'n eu cael yn eang ond roedd yna ambell i achlysur lle'r oedd pobl ifanc yn ymgynnull ac yn yfed yn yr ardal. Cafodd nifer o fyrddau adar eu dwyn o'r ardd ac roedd yna achlysuron lle'r oedd pobl yn gadael i'w cŵn faeddu yn yr ardal."

O ganlyniad i'r wybodaeth a gafwyd, gofynnwyd i drigolion lleol gofnodi pob digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynyddodd patrolau'r heddlu hefyd.

Meddai Rheolwr Rhawd Cymunedol Sharon Thorogood: Mae'n dda gweld busnesau lleol a thrigolion yn ymuno â'r Heddlu i helpu i roi stop i unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n digwydd yn yr ardal.

"Mae'n rhaid cymeradwyo Parc Carafannau Harts am eu hysbryd cymunedol a'u parodrwydd i helpu'r Heddlu ddatrys y broblem hon. Mae Pensarn yn lwcus mai ychydig o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n digwydd yno a'r gobaith ydi y bydd yn aros fel hyn yn y dyfodol gyda chymorth trigolion lleol."

Yn y llun gwelir SCCH Sally Mulvaney yn yr ardd gymunedol.



Resources