
PC’s raise money for charity
08/09/2010 09:37:00
Police campaigns in Colwyn Bay
08/09/2010 09:31:00
Staff tackle Tour de France climbs for Ty Gobaith
07/09/2010 16:04:00
Tynnu sylw at ddiogelwch plant mewn ceir
07/09/2010 11:50:00
Diwrnod Diogelwch i Deuluoedd
07/09/2010 11:06:00

Mae ymgyrch wyth wythnos sy'n hyrwyddo gwaith partneriaeth da rhwng yr heddlu a'r cynghorau lleol ar y gweill yng Ngogledd Cymru.
Drwy gydol misoedd yr haf, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn rhedeg nifer o wythnosau gyda thema fel bod y cyhoedd yn adnabod y gwaith partneriaeth ardderchog sy'n cael ei wneud gyda'r chwe chyngor lleol a gwasanaethau brys eraill yng Ngogledd Cymru.
Mae'r themâu yn cynnwys Taclo Troseddau sy'n gysylltiedig ag Alcohol, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Diogelwch Ffyrdd ac Amddiffyn Pobl sy'n agored i Niwed.
Meddai Uwcharolygydd Jeremy Vaughan, Pennaeth Hyder a Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru "Mae gan bob aelod o'r sefydliad eu rhan i'w chwarae er mwyn sicrhau bod gan y cyhoedd ffydd yn y ffaith ein bod yn gwneud ein gwaith yn effeithiol ac yn mynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i chi."
"Rydym o'r farn y gallwn gael effaith gadarnhaol drwy gyd-weithio a mynd i'r afael â'r materion sydd o bwys i'n cymunedau. Tra bod yna bwyslais ar weithgareddau gorfodi sy'n cael eu harwain gan yr heddlu, hoffwn bwysleisio fod y chwe awdurdod lleol a'r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, ynghyd â'r gwasanaethu brys yn cymryd rhan yn hyn.
Ychwanegodd: "Er bod yr ymgyrch yn rhedeg am wyth wythnos, hoffwn bwysleisio fod yr heddlu a'r partneriaid wedi ymrwymo i fynd i'r afael â materion sy'n achosi pryder yn ein cymunedau, drwy gydol y flwyddyn. Gall cyhoedd Gogledd Cymru fod yn sicr ein bod yn gwneud popeth y gallwn i wneud Gogledd Cymru'n lle mwy diogel fyth i weithio, i fyw ac i ymweld ag o."
Bydd y ddwy wythnos gyntaf yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â throsedd sy'n gysylltiedig ag alcohol ac mae nifer o ymgyrchoedd ar y cyd â'n cyfeillion o adrannau trwyddedu'r cyngor wedi cael eu trefnu. Bydd gweithrediadau profion prynu yn cael eu trefnu ynghyd ag ymweliadau ar y cyd i eiddo trwyddedig. Rydym am gynyddu patrolau mewn mannau lle mae yfed dan oed yn peri'r problemau mwyaf, a bydd swyddogion yn defnyddio eu pwerau i gymryd alcohol oddi ar bobl ifanc.
Byddwn yn canolbwyntio hefyd ar addysgu pobl ifanc ac yn ystod yr ymgyrch i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd Swyddogion Cyswllt Ysgolion yn ymgysylltu â phobl ifanc cyn i'r ysgolion gau am eu gwyliau haf. Hefyd bydd patrolau dynodedig yn cael eu cynnal gyda'r nos mewn mannau penodol a bydd swyddogion hefyd yn defnyddio gweithgareddau hwyl - megis disgo a nosweithiau bandiau i bobl ifanc lleol.
Bydd Diogelwch y Ffyrdd yn defnyddio adnoddau fel Beicio Diogel ac ymgyrch "Ffrindiau Peryg Bywyd" yr Heddlu - sef ymgyrch sydd wedi'i anelu at yrwyr ifanc. Bydd Swyddogion Plismona'r Ffyrdd yn cynnal patrolau a gweithgareddau penodol megis ‘diwrnodau gwybodaeth'. Mae'r rhain yn cael eu trefnu ar y cyd â'r gwasanaethau brys eraill er mwyn addysgu gyrwyr.
Mae delio â phobl sy'n agored i niwed yn thema arall fydd yn cael sylw yn ystod yr ymgyrch. Mae amddiffyn pobl rhag niwed yn un o Flaenoriaethau Plismona Heddlu Gogledd Cymru.
Mae gweithgareddau fel patrolau ar y cyd â Swyddogion Safonau Masnach y cyngor lleol wedi cael eu trefnu, sy'n anelu at daclo masnachwyr ffug a galwyr di-wahoddiad.
Meddai Uwcharolygydd Jeremy Vaughan: "Ein bwriad yn ystod yr ymgyrch yw tawelu meddwl y cyhoedd a'u sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn mynd ar drywydd y rhai sy'n cyflawni troseddau yn ein cymunedau.
"Rydym eisiau dangos i'r cyhoedd yng Ngogledd Cymru, ein bod, drwy weithio mewn partneriaeth, yn gwneud gwahaniaeth."
Nodiadau:
Bydd yr ymgyrch yn rhedeg fel a ganlyn:
• Mynd i'r afael â trosedd sy'n gysylltiedig ag alcohol (1 - 16 Gorffennaf)
• Mynd i'r afael â Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (19 - 31 Gorffennaf)
• Diogelwch Ffyrdd (2 - 15 Awst)
• Delio â phobl sy'n agored i niwed (16 - 31 Awst)