
PC’s raise money for charity
08/09/2010 09:37:00
Police campaigns in Colwyn Bay
08/09/2010 09:31:00
Staff tackle Tour de France climbs for Ty Gobaith
07/09/2010 16:04:00
Tynnu sylw at ddiogelwch plant mewn ceir
07/09/2010 11:50:00
Diwrnod Diogelwch i Deuluoedd
07/09/2010 11:06:00
Mae un o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi dychwelyd o ymweliad ‘answyddogol' ag America. PC Richard Wynne, sy'n gweithio ym Mangor, yw'r swyddog heddlu Americanaidd cyntaf erioed i weithio i Heddlu Gogledd Cymru. Cafodd Richard ei eni yn yr Unol Daleithiau ac mae ei fam yn byw yn Albany, Efrog Newydd.
Yn ddiweddar treuliodd Richard fis yn ymweld â'i fam yn Albany ac yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd flas ar blismona yn y dull Americanaidd pan gafodd gyfle i weithio gyda sawl gwahanol adran, gan gynnwys Heddlu Talaith Efrog Newydd, Adran Sheriff Swydd Albany a Gwasanaeth Carcharau Talaith Efrog Newydd.
Dywedodd PC Wynne ei fod wedi dysgu llawer am dechnegau arbed arian yn ystod ei ymweliad a'i fod wedi cael cyfle i gymharu plismona cymunedol yn yr Unol Daleithiau ac yma yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd PC Wynne: "Un o'r gwahaniaethau mwyaf a welais i oedd mewn plismona cymunedol. Rai blynyddoedd yn ôl, o ganlyniad i nawdd gan y Llywodraeth Ffederal (h.y. arian o Washington) roedd prosiectau plismona cymunedol cynhwysfawr ar y gweill.
"Dros y blynyddoedd wrth i'r ffynhonnell hon o arian sychu, mae'r prosiectau yma wedi cau i lawr a bellach dim ond un rhaglen sy'n dal i fynd, sef rhaglen y Swyddogion Ysgolion. Mae'r swyddogion yma'n debyg iawn i'n Swyddogion Cyswllt Ysgolion ni ond gyda llai o bwyslais ar addysgu a mwy ar ymchwilio i droseddau sy'n digwydd yn yr ysgolion.
"Mae'r swyddogion yma hefyd yn debyg i Reolwyr Rhawd Gymunedol ar gyfer plant gan eu bod nhw'n dod yn wynebau cyfarwydd y gall plant droi atyn nhw i gael cymorth gyda phroblemau fel trais domestig, bwlio a chamddefnyddio sylweddau. Roeddwn i wedi synnu cymaint o feddwl oedd gan y plant yn un o'r ysgolion o'r swyddog o Adran Blismona Guilderland y bûm yn gweithio ag o.
"Pan siaradais gyda'r rheolwyr a disgrifio ein RhRhG ni iddyn nhw, cefais wybod bod disgwyl i'w swyddogion nhw i gyd gyflawni swyddogaethau tebyg. Does ganddyn nhw ychwaith ddim swyddogion sy'n cyflawni rolau tebyg i'n SCCH ni.
Pan siaradodd am geisio gwella gwasanaethau Heddlu Gogledd Cymru a thorri costau, cefais sawl awgrym, er enghraifft rhoi mwy o ddisgresiwn i swyddogion, lleihau lefelau rheoli, gwneud y defnydd gorau o dechnoleg a chwtogi ar waith papur ac amser yn y swyddfa - mae cyfrifiaduron gyda'r gallu i brintio tocynnau wedi eu gosod ym mhob un o'u cerbydau heddlu nhw.
"Ar y cyfan buaswn yn dweud bod mwy o debygrwydd nag annhebygrwydd rhwng plismona yn yr Unol Daleithiau a'r DU" meddai.